Os bydd cyflogwyr yn methu â chydymffurfio, mae gennym amryw o bwerau ar gael i ni, megis cyflwyno hysbysiad cydymffurfio neu gosb. Fel cyflogwr gallwch ofyn am adolygiad o'r hysbysiadau hyn.
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol mewn datganiad o gydymffurfiad, byddwch yn cyflawni trosedd.
Llythyr rhybudd
Os nad ydych wedi gwneud eich dyletswyddau cyfreithiol, byddwch yn derbyn llythyr rhybydd i ddechrau gyda therfyn i chi gyflawni eich dyletswyddau. Cysylltwch â'r rhif ar eich llythyr neu anfonwch ebost at CandE@autoenrol.tpr.gov.uk a gallwn ddweud wrthoch chi beth sydd ei angen i chi wneud eich dyletswyddau cyfreithiol. Os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau o fewn y terfyn amser yna gallech dderbyn hysbysiad statudol.
Os ydych chi wedi derbyn hysbysiad o gyfraniadau heb eu talu gan ein cyfeiriad yn Wymondham, mae rhaid i chi gwblhau'r tri cham isod.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Dilynwch y tri cham erbyn eich dyddiad cau, neu efallai byddwch yn derbyn hysbysiad rhybudd. Os ydych chi wedi datrys y mater gyda'ch darparwr pensiynau, mae rhaid i chi o hyd anfon tystiolaeth at y Rheoleiddiwr Pensiynau er mwyn atal gweithredu gorfodi.
Cam 1: Cyfrifwch y cyfanswm o gyfraniadau heb eu talu
Er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, mae rhaid i chi gyfrif a thalu'r swm cywir sy'n ddyledus mewn cyfraniadau heb eu talu ar gyfer pob unigolyn yn eich cynllun.
Pwyntiau allweddol:
- Efallai bod darparwr eich cynllun wedi cysylltu â chi am y cyfraniadau heb eu talu hyn, ond bod y swm cywir yn wahanol i'r swm a adroddwyd.
- Os ydych chi wedi methu taliadau pellach, mae rhaid i'r swm rydych chi'n ei dalu gynnwys yr holl gyfraniadau sy'n ddyledus.
- Gwiriwch fod eich darparwr pensiynau yn ymwybodol o'r diweddaraf ynglŷn ag unrhyw berson sydd wedi ymuno â neu adael eich cynllun.
Bydd y swm rydych chi'n ei dalu yn benodol i'ch cynllun chi. Cysylltwch â'ch darparwr pensiynau am wybodaeth bellach neu os angen i chi herio'r swm sy'n ddyledus.
Cam 2: Cysylltwch â'ch darparwr pensiynau er mwyn talu'r cyfanswm o gyfraniadau heb eu talu i reolwr neu ymddiriedolwr y cynllun pensiwn
Cynhwyswch bob taliad sy'n ddyledus, neu fe allwn ni gyhoeddi Hysbysiad Cyfraniadau sydd heb eu Talu pellach o dan adran 37 Deddf Pensiynau 2008.
Dylech chi gysylltu â'ch darparwr cynllun yn uniongyrchol er mwyn datrys unrhyw broblemau os ydych chi'n herio unrhyw gyfraniadau heb eu talu.
Cam 3: Anfonwch dystiolaeth yn dangos y taliad(au) at y Rheoleiddiwr Pensiynau
Mae rhaid i chi dalu'r cyfraniadau cyn i chi anfon tystiolaeth; ni allwn ni dderbyn dogfennau sy'n dangos taliadau wedi eu trefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.
Mae tystiolaeth dderbyniol yn cynnwys cipluniau o borth gwefan y darparwr pensiynau sy'n dangos yr isod yn glir:
1. Cyfeirnod Cynllun Pensiwn y Cyflogwr (EPSR) (gall hyn gael ei adnabod fel rhif polisi'r grŵp, ac ar gyfer cynlluniau Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol (NEST), dyma eich manylion adnabod NEST).
2. Bod y cyfnodau a adroddwyd amdanynt wedi eu talu, a'r
3. Union ddyddiad y talwyd y cyfnodau a adroddwyd – (DD/MM/BBBB).
Os nad ydych chi'n gallu anfon cipluniau:
- Gall cyfriflenni banc dim ond bod yn dderbyniol gyda thystiolaeth ychwanegol, er enghraifft anfonebau gan ddarparwr y cynllun.
- E-bost gan ddarparwr eich cynllun yn cadarnhau:
- nad oes unrhyw gyfraniadau'n ddyledus am y cyfnod(au) a adroddwyd yn flaenorol, a'r
- dyddiad(au) y bu i chi dalu'r cyfraniadau.
- Os na allwch chi dalu'r swm ar unwaith oherwydd anawsterau ariannol ac wedi cytuno ar gynllun talu â darparwr eich pensiwn, mae rhaid i chi anfon tystiolaeth o'r cynllun talu a gytunwyd a'r dyddiad y dechreuodd.
Anfonwch eich tystiolaeth at Y Rheoleiddiwr Pensiynau yn: CandE@autoenrol.tpr.gov.uk neu drwy'r post i: Y Rheoleiddiwr Pensiynau, BP 349 Abbey View Wymondham NR18 8JA.
Hysbysiadau statudol
Bydd hysbysiad statudol yn gofyn i chi wneud eich dyletswyddau a / neu dalu unrhyw gyfraniadau rydych wedi eu methu neu wedi bod yn hwyr yn eu talu. Gallem hefyd amcangyfrif a chodi llog ar gyfraniadau sydd heb eu talu a gofyn i chi gyfrifo a / neu dalu'r cyfraniadau hyn. Mae'n bwysig eich bod yn gweithredu a gwneud eich dyletswyddau o fewn y terfyniad amser, neu gallech dderbyn hysbysiad cosb.
Os ydych chi wedi derbyn hysbysiad cydymffurfio gan ein cyfeiriad yn Wymondham, mae rhaid i chi gwblhau'r ddau gam isod.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Dilynwch y ddau gam er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith:
- Cam 1
Gwiriwch eich bod wedi cwblhau'ch dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer ymrestru awtomatig trwy ddilyn ein canllaw cam wrth gam i gyflogwyr.
- Cam 2
Cyflwynwch eich datganiad neu ailddatganiad o'r ffurflen gydymffurfio. Mae'r ffurflen hon yn dweud wrthym eich bod wedi bodloni'ch dyletswyddau, ac mae rhaid i chi ei chwblhau hyd yn oed os nad oes gennych chi staff i'w hymrestru ar bensiwn.
Mae rhaid i chi gyflawni'ch dyletswyddau cyfreithiol cyn cyflwyno'ch datganiad neu ailddatganiad cydymffurfio - mae cynnwys gwybodaeth anghywir yn fwriadol yn drosedd.
Hysbysiadau cosb
Gallwn gyhoeddi hysbysiad cosb os ydych heb ufuddhau i hysbysiad statudol, neu i ymateb i anuffudd-dod penodol.
- Hysbysiad cosb benodedig
Os nad ydych yn cydymffurfio a'r hysbysiad statudol, neu os oes tystiolaeth o dor-cyfraith yna gallech dderbyn hysbysiad cosb. Mae'r ddirwy wedi ei gosod ar £400 a rhaid ei thalu cyn pen y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad.
- Rhybudd cosb gynyddol
Os parhewch i beidio â chydymffurfio a'r hysbysiad statudol yna gallech dderbyn hysbysiad cosb gynyddol. Mae hwn yn gosod terfyn amser newydd, wedi hyn byddwch yn cael eich dirwyo ar raddfa ddyddiol o £50 i £10,000 yn ddibynnol ar nifer eich staff. Bydd y ddirwy yn parhau i gynyddu ar y raddfa ddyddiol hyd nes eich bod yn cydymffurfio a'r hysbysiad statudol neu ein bod yn rhoi terfyn arno.
- Hysbysiad cosb ymddygiad recriwtio gwaharddedig
Os nad ydych yn cydymffurfio a hysbysiad cydymffurfio ymddygiad recriwtio gwaharddedig neu fod tystiolaeth o dor-cyfraith, gallech dderbyn Hysbysiad cosb. Mae gan y ddirwy gyfradd benodedig o £1,000 i £5,000 yn ddibynnol ar nifer eich staff.
Hysbysiad i ddangos dogfennau neu wybodaeth
Erlyniad
Dyledion sy'n ddyledus
Os nad ydych chi'n talu cosb erbyn y dyddiad cau, byddwn ni'n adfer dirwyon heb eu talu trwy achosion, a all gynnwys cael dyfarniad y llys sirol (CCJ) a chyfarwyddo beilïod neu siryfion.
Cewch fwy o wybodaeth ar sut i dalu hysbysiad cosb ymrestru awtomatig a beth i'w wneud os ydych chi'n cael trafferth i dalu.